Math | ynys |
---|---|
Prifddinas | Tobar Mhoire |
Poblogaeth | 2,800 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Mewnol Heledd |
Sir | Argyll a Bute |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 886 km² |
Gerllaw | Moryd Lorn |
Cyfesurynnau | 56.45°N 6°W |
Cod OS | NM590354 |
Un o Ynysoedd Mewnol Heledd yng ngorllewin yr Alban yw Muile (Saesneg: Mull neu Isle of Mull). Yn weinyddol, mae'n rhan o Argyll a Bute. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 2,667. Y brif dref yw Tobar Mhoire (Saesneg: Tobermory).
Mae'r enw yn gytras â Moel yn Gymraeg. Gydag arwynebedd o 875 km2, Muile yw'r ail-fwyaf o Ynysoedd Mewnol Heledd, a'r bedwaredd o ran maint ymhlith holl ynysoedd yr Alban. Ceir nifer o gestyll ar yr ynys: Castell Aros, Castell Duart a Chastell Torosay. Yn y de-orllewin, mae culfor bychan yn ei gwahanu oddi wrth ynys lai Iona, tra mae Ulbha yn un o nifer o ynysoedd bychain ger yr arfordir gorllewinol.
Mae nifer o gysylltiadau fferi a'r tir mawr: y pwysicaf yw'r fferi rhwng Oban a Craignure. Copa uchaf yr ynys yw Ben More, 966 medr (3,170 troedfedd). Daw llawer o dwristiaid i'r ynys yn yr haf, llawer ohonynt i weld y bywyd gwyllt. Mae Muile yn un o'r mannau gorau ym Mhrydain i wylio'r dyfrgi, ac mae Eryr môr a'r Eryr euraid yn nythu ar yr ynys.